Safle Murton

Murton yw ein safle pedair erw sydd wedi trawsnewid dros y deng mlynedd diwethaf. Mae ein hadeiladau blaengar yn cyfuno gwaith adeiladu cyfoes, cynaliadwy a thraddodiadol, gan arddangos potensial grwpiau ‘dan anfantais’ ac ‘anodd eu cyrraedd’ sydd wedi helpu i greu adeiladau cynaliadwy mewn amgylchedd hardd.

Mae gan Murton 100% o drydan adnewyddadwy, gwres a dŵr poeth o’n safle ein hunain ac, yn fwyaf diweddar, pwynt gwefru EV 50kw cyntaf Gŵyr! Mae ein tipi anferth ar gael ar gyfer gweithdai a digwyddiadau ac mae ein hadeiladau ffrâm bren lleol yn cynnwys ein canolfan hyfforddi hynod. Mae gennym ni hefyd foch brid prin tymhorol!

</p>
<blockquote><p>I ddarganfod mwy am adeiladau Murton, ewch i
Adeiladau Safle Murton.</p></blockquote>
<p>