
Rydym ni’n chwilio am Uwch Bensaer i ymuno â’n tîm ar gontract cyfnod mamolaeth 12 mis. Rydym ni’n chwilio am Uwch Bensaer i ymuno â’n tîm ar gontract cyfnod mamolaeth 12 mis. Rydym ni’n chwilio am unigolyn sydd â sgiliau trefnu, cyfathrebu a rheoli amser rhagorol i sicrhau bod ein prosiectau a’n hymarfer pensaernïol yn rhedeg yn esmwyth. Bydd angen i chi gael sylw da i fanylion, yn ogystal â meddylfryd datrys problemau a bod â sgiliau rhyngbersonol a pherthynol da, ar gyfer rheoli tîm ac ymgysylltu â chleientiaid. Mae profiad a diddordeb mewn pensaernïaeth gynaliadwy a defnyddio deunyddiau naturiol yn hanfodol. Byddwch wedi cofrestru gyda ARB ers 5+ mlynedd, bydd gennych chi brofiad o ddefnyddio meddalwedd fel Revit, InDesign a Photoshop, yn ogystal â sgiliau tynnu lluniau â llaw a sgiliau cyflwyno.