Llwybrau Adeiladu

Bydd “Llwybrau Adeiladu” yn cefnogi rhai o bobl ifanc mwyaf difreintiedig Caerdydd a’r Fro i wella eu hiechyd, eu lles a’u cyfleoedd addysg a dod â nhw’n nes at gyflogaeth neu eu hannog i barhau ag astudiaeth bellach trwy adeiladu cynaliadwy a rhaglenni rheoli tir cynaliadwy.

Yn seiliedig ar 12 mlynedd o ymchwil glinigol, bydd y prosiect hwn yn cael ei ategu gan brofiadau awyr agored ystyrlon sy’n canolbwyntio ar berthnasoedd ac sy’n newid bywydau pobl. Bydd y cyfranogwyr yn gallu profi ystod eang o weithgareddau, megis adeiladu strwythurau anhygoel gyda deunyddiau Cymreig a naturiol a rheolaeth tir cynaliadwy, adeiladu eu hyder a’u cefnogi yn ôl i gyflogaeth neu astudio. Bydd cyfle i ennill cymhwyster Addysg Gysylltiedig â Gwaith trwy Agored Cymru neu Ddyfarniad Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu trwy NOCN (cwrs rhagflaenol ar gyfer ennill cerdyn CSCS).

Ar gyfer pwy mae’r prosiect hwn?

Mae’r prosiect hwn wedi’i anelu at bobl ifanc 16 – 24 oed nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant. Mae angen iddynt fod yn economaidd anweithgar neu’n ddi-waith ac yn byw yng Nghaerdydd neu Fro Morgannwg. Rydym yn chwilio am asiantaethau atgyfeirio gydag o leiaf 12 o gyfranogwyr posibl a allai fod eisiau cymryd rhan mewn rhaglen neu unigolion sydd am atgyfeirio eu hunain i raglen.

Pryd?

Mae 5 dyddiad derbyn wedi’u hamserlennu ar gyfer 2021/22:

w/c 13 Medi 2021
w/c 31 Hydref 2021
w/c 17 Ionawr 2022
w/c 28 Chwefror 2022
w/c 25 Ebrill 2022


Bydd grwpiau yn mynychu 1 diwrnod yr wythnos am 6 wythnos. Byddwn yn rhedeg grŵp bob diwrnod o’r wythnos.


Amseroedd :
10:00 – 14:30.

Ble?


Byddwn wedi ein lleoli yn ‘Our Health Meadow’ ar dir ger Ysbyty Llandochau lle byddwch yn helpu i greu gofod therapiwtig awyr agored anhygoel. Mae rhagor o fanylion am y prosiect hwn ar gael yma

Beth sydd ei angen arnoch chi?


Mae angen i chi allu cyrraedd y safle. Mae bysiau i Ysbyty Llandochau neu efallai y gallwn drefnu cludiant ar eich cyfer. Gallwch weld lleoliad y safle yma
Pecyn bwyd. Peidiwch ag anghofio brechdanau, byddwn yn darparu’r te a bisgedi!
Mae angen i chi wisgo dillad y gallant symud yn gyfforddus ynddynt, dim ots am fynd yn fudr, ac sy’n addas ar gyfer tywydd Prydain! Mae gennym ddigon o ddillad glaw y gall aelodau’r grŵp eu defnyddio.

Pwy sy’n ariannu’r prosiect hwn?


Ariennir y rhaglen gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop a ddarperir gan Lywodraeth Cymru a’i rheoli drwy Gronfa Cynhwysiant Gweithredol WCVA. Ei nod yw lleihau anweithgarwch economaidd yng Nghymru a gwella cyflogadwyedd y bobl ddifreintiedig sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur, sydd yn aml â rhwystrau cymhleth i gyflogaeth.