Mae pobl yn dod am therapi am bob math o resymau. Boed anawsterau gyda pherthnasoedd, straen, gorbryder, profedigaeth, iselder, canfod pwrpas mewn bywyd neu gaethiwed i alcohol neu gyffuriau, does dim rhaid i chi ddelio ag ef ar eich pen eich hun!

 

I siarad â ni am eich gofynion therapi grŵp, cysylltwch â ni

Therapi grŵp preswyl

Cynnig profiad therapi grŵp preswyl deuddydd ar gyfer hyd at 10 o bobl. Yn seiliedig ar ein tyddyn tawel a thrwy ddefnyddio’r traethau a’r coetiroedd cyfagos, bydd y profiad preswyl hwn yn rhoi’r cyfle i chi ddod i gysylltiad agos â natur, y grŵp a chithau.
Bydd y profiad preswyl hwn yn archwilio eich natur eich hun mewn perthynas â’ch amgylchoedd a’ch gilydd. Creu’r cyfle i chi eistedd gyda chi’ch hun yn yr eiliad bresennol a sylwi ar effaith drawsnewidiol derbyn wrth i natur dderbyn ei hun.

Rhaglen therapi 6 wythnos

Rydym hefyd yn cynnal rhaglen 6 wythnos ar gyfer hyd at 10 o gyfranogwyr. Rydym yn cyfarfod ar ein tyddyn tawel un diwrnod yr wythnos am 6 wythnos. Mae’r rhaglen hon yn rhoi mynediad heb ei ail i gyfranogwyr i olygfeydd godidog Gŵyr tra’n hwyluso taith gydamserol o fewn.

Gall themâu rhaglen gynnwys:
Byw yn dda gyda phryder , Dod i’m hadnabod , Hunan dderbyn , Tyfu hyder , Maethu cymuned , Eistedd gydag ansicrwydd , Byw gyda marw .