Cyfleoedd Gwirfoddoli
Beth yw pwrpas y prosiect hwn?
Mae ‘Tyfu Cymunedol Trwy Arddio Coedwig’ yn galluogi’r gymuned leol i helpu i greu ‘ardd goedwig’ yn Murton, Gŵyr. Mae gardd goedwig yn ‘system agronomig wedi’i dylunio sy’n seiliedig ar goed, llwyni a phlanhigion lluosflwydd … wedi’i chymysgu mewn ffordd sy’n dynwared strwythur coedwig naturiol’. Mae’n un o’r mathau mwyaf sefydlog a chynaliadwy o ecosystemau o fewn ein hinsawdd ac mae’n rhan o gynlluniau cynaliadwyedd uchelgeisiol Down to Earth sydd hefyd yn cefnogi iechyd a lles gwirfoddolwyr lleol.
Bydd cymryd rhan yn y sesiynau yn rhoi ystod o sgiliau a phrofiad i bobl, megis deall sut i dyfu bwyd organig yn gynaliadwy, sut i greu systemau compostio, dysgu am wahanol blanhigion a’u buddion a sgiliau rheoli tir ehangach, yn ogystal â gwella iechyd a lles. drwy fod yn yr awyr iach a chwrdd â phobl newydd.
Ar gyfer pwy mae’r prosiect hwn?
Mae’r prosiect wedi’i anelu at unrhyw un dros 16 oed sy’n byw yn lleol i Murton, Gŵyr a hoffai wirfoddoli.
Pryd?
Cynhelir y sesiynau gwirfoddoli bob pythefnos ar ddydd Sadwrn. Mae grwpiau ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn cyfarfod ganol wythnos.
Dyddiadau ar gyfer 2022:
Dydd Sadwrn 25 Mehefin
Dydd Sadwrn 2 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 23 Gorffennaf
Dydd Sadwrn 13 Awst
Dydd Sadwrn 10 Medi
Dydd Sadwrn 24 Medi
Dydd Sadwrn 8 Hydref
Dydd Sadwrn 22 Hydref
Dydd Sadwrn 5 Tachwedd
Dydd Sadwrn 19 Tachwedd
Dydd Sadwrn 3 Rhagfyr
Amseroedd:
10:00yb – 14:30yp
Ble?
Byddwn wedi ein lleoli ar safle Murton Down to Earth:
72a Heol Manselfield, Murton, SA 33AP
Gallwch ddod o hyd i leoliad y safle yma
Beth sydd ei angen arnoch chi?
Mae angen i chi allu cyrraedd y safle, gwisgo dillad cyfforddus sy’n iawn i fynd yn fudr (ac sy’n addas ar gyfer tywydd Cymreig!) ac, os oes gennych chi rai, dewch â sgidiau dur â chapiau traed gyda chi. Bydd yr holl offer a chyfarpar diogelu eraill yn cael eu darparu.
Dylai gwirfoddolwyr hefyd ddod â phecyn bwyd ond rydym yn darparu’r te a’r coffi!
Pwy sy’n ariannu’r prosiect hwn?
Mae’r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru, ac a gefnogir gan Bartneriaeth Datblygu Gwledig Abertawe yng Nghyngor Abertawe.
Ffoniwch 01792 232 439 nawr neu e-bostiwch ni i ddarganfod mwy am Tyfu Cymunedol Trwy Arddio Coedwig