Crynodeb o’r Prosiect
Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda 2 fwrdd iechyd – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
Mae’r cynllun cyntaf yn brosiect partneriaeth seilwaith gwyrdd arloesol gydag Elusen Iechyd Caerdydd a’r Fro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a elwir yn “ Our Health Meadow ”. Gan weithio’n agos gyda staff, cleifion a’r gymuned ehangach, rydym wedi creu cyfleuster gofal iechyd ac adsefydlu awyr agored yn seiliedig ar 14 erw o goetir a dôl ger Ysbyty Athrofaol Llandochau rhwng Mehefin 2021 a Mehefin 2023.