Skip to main content

Dysgu o'r Gorffennol:
Rhoi i'r Dyfodol

Sgiliau traddodiadol ar gyfer dyfodol cynaliadwy

Gyda chefnogaeth Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, rydym wedi creu profiadau dysgu ymarferol, lle mae pobl yn dysgu drwy wneud — gan ailgysylltu â sgiliau traddodiadol megis fframio coed, adeiladu â chob, cloddio gwrychoedd a ffensio rhaniog.

Sgiliau hynafol yw’r rhain sydd wedi llunio ein tirweddau a’n cymunedau ers cenedlaethau. Nawr, gallant ein helpu i adeiladu dyfodol gwyrddach, mwy cynaliadwy.

Dargafod mwy

LPGF@downtoearthproject.org.uk
01792232439

Gostyngiad archeb cynnar

25% i ffwrdd os archebir cyn 29ain Awst ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg o fis Medi ymlaen!

Beth rydym yn ei wneud

Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn yn:

  • Cynnal rhaglenni hyfforddi — o brofiadau undydd i gyrsiau 6–8 wythnos
  • Cynnig cyfleoedd dysgu achrededig ac anachrededig
  • Cyrraedd tua 320 o gyfranogwyr
  • Gweithio gyda chrefftwyr arbenigol i ddyfnhau ein gwybodaeth
  • Creu pum ffilm hyfforddi ar gael i’r cyhoedd am ddim
  • Mynd i ddigwyddiadau cyhoeddus fel Sioe Gŵyr i godi ymwybyddiaeth am grefftau treftadaeth

Disgwylwch fynd ati’n ymarferol gyda:

  • Fframio coed traddodiadol
  • Adeiladu waliau cob & plastro clai
  • Rendro calch
  • Gwaith coed gwyrdd
  • Waliau cerrig sych
  • Cloddio gwrychoedd a chofnodi
  • Ffensio rhaniog gyda phostiau hollt

Pam mae hyn yn bwysig

Credwn fod sgiliau treftadaeth yn cynnig atebion ymarferol, go iawn i heriau amgylcheddol a chymdeithasol heddiw. Nid ydynt yn ymwneud â’r gorffennol yn unig — maent yn ymwneud â sut rydym yn byw’n dda nawr, ac yn y dyfodol.

Drwy’r prosiect hwn, rydym yn cryfhau ein cysylltiad â’r tir, â deunyddiau naturiol, ac â’n gilydd — tra’n helpu mwy o bobl i gael mynediad at hyfforddiant a chyfleoedd ystyrlon.

Rydym yn ddiolchgar iawn i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud hyn yn bosibl. Diolch o galon!

Course Information

Dyddiadau Cyrsiau:

  • Yn rhedeg o 8fed Medi i 24ain Hydref ac o 3ydd Tachwedd i 19eg Rhagfyr
  • ac o 3ydd Tachwedd i 19eg Rhagfyr

Pris

£85.00 per person per day

Gostyngiad archeb cynnar

25% i ffwrdd os archebir cyn 29ain Awst ar gyfer cyrsiau sy’n rhedeg o fis Medi ymlaen!

Additonal details

Minimum group size: 6
Guide timings: 10am – 3pm
Agored Accreditation: Free

For more information or to book:
LPGF@downtoearthproject.org.uk
01792232439

The National Lottery Heritage Fund Logo

The National Lottery Heritage Fund is the largest funder for the UK’s heritage. Using money raised by National Lottery players we support projects that connect people and communities to heritage. Our vision is for heritage to be valued, cared for and sustained for everyone, now and in the future. From historic buildings, our industrial legacy and the natural environment, to collections, traditions, stories and more. Heritage can be anything from the past that people value and want to pass on to future generations. We believe in the power of heritage to ignite the imagination, offer joy and inspiration, and to build pride in place and connection to the past.