
Mae ein stori yn Little Bryn Gwyn ar Benrhyn Gŵyr wedi dechrau pennod newydd ac rydym yn falch o gyhoeddi ein bod bellach yn berchen ar y ganolfan breswyl a adeiladwyd gennym gyda phobl ifanc ar gyfer Valleys Kids 6 mlynedd yn ôl.
Gan adeiladu ar hanes 70 mlynedd o fod yn lle i blant “mewn perygl”, mae’r safle 6 erw cyfan wedi’i gysegru i’n gwaith gyda chymunedau amrywiol o blant, pobl ifanc ac oedolion sy’n wynebu allgáu ac ymyleiddio.
Mae’n safle prydferth sydd wedi’i grefftio â llaw a’i greu’n gariadus gan yr union grwpiau a fydd yn elwa o’i ddefnyddio. Wedi’i seilio ar ddefnyddio pren Cymreig a deunyddiau naturiol, mae’n gyfleuster hyfforddi preswyl sydd nid yn unig yn meithrin pobl, ond yn meithrin natur a’n cysylltiad â hi.
Os hoffech chi archebu’r ganolfan breswyl (SA3 1BG) ar gyfer eich grŵp, neu os hoffech chi gefnogi ein gwaith drwy archebu’r cyfleuster ar gyfer profiad preswyl corfforaethol neu gynulliad teuluol, gallwch ddod o hyd i bopeth sydd angen i chi ei wybod yma.
Rydym yn cynnig gostyngiad i elusennau a grwpiau ‘di-elw’. Cysylltwch ag info@downtoearthproject.org.uk i gael gwybod mwy!
We are grateful to Valleys Kids – Plant Y Cymoedd for the long term relationship and also to the funders who have enabled this dream to grow.
The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, People’s Postcode Lottery, Welsh Government, Tonia Antoniazzi,Rebecca Evans MS/AS, for Gower Cyfoeth, Naturiol Cymru / Natural Resources Wales Swansea Bay NHS, Swansea University University of Wales Trinity Saint David, Gower College Swansea, Swansea Council for Voluntary Service, Maggie’s Cardiff, Cardiff & Vale Health Charity